Mynydd Herzl

Mynydd Herzl
Enghraifft o'r canlynolmynydd, mynwent Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1948 Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethIsrael Edit this on Wikidata
RhanbarthJeriwsalem, Bwrdeistref Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mynydd yn Jerwsalem yw Mynydd Herzl (Hebraeg: הר הרצל , Har Hertzel; hefyd Har HaZikaron, הר הזכרון llyth. "Mynydd Coffa"), lle lleolir y fynwent genedlaethol. Mae ganddi uchder o 834 metr.

Rhoddwyd ei enw er anrhydedd i sylfaenydd Seioniaeth, Theodor Herzl, y mae ei feddrod ar y copa. Bwriad y fynwent yw claddu'r rhai sy'n cael eu hystyried arwyr rhyfel gwladwriaeth Israel, yn ogystal â'i Phenaethiaid Gwladol a chyn-lywyddion y Knesset (senedd Israel). W edi'u claddu ym mynwent Mynydd Herzl mae'r cyn Brif Weinidogion Yitzhak Rabin a Golda Meir, cyn-Arlywydd ac arweinydd cenedlaetholaidd, Ze'ev Jabotinsky, ymhlith eraill.[1]

  1. Mitch Ginsburg (5 May 2014). "On Mount Herzl, with the keepers of the graves". The Times of Israel. Cyrchwyd 17 August 2016.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy